Sut ydw i’n mudo i wefan diweddaredig Fy Iechyd Ar-lein?
Pwysig – Mae hwn ar gyfer defnyddwyr www.fyiechydarlein-inps.nhs.uk yn unig. Os ydych yn ddefnyddiwr newydd neu eisoes wedi bod trwy’r broses fudo, rhaid i chi fewngofnodi I www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk
I fudo i wefan ddiweddaredig Fy Iechyd Ar-lein:
- Pan fyddwch yn mewngofnodi i www.fyiechydarlein-inps.cymru.nhs.uk, gofynnir i chi roi Rhif Adnabod Practis, neu cliciwch Chwilio i ddod o hyd iddo, yna cliciwch Cyflwyno.
- Arddangosir y sgrin Mewngofnodi neu Gofrestru, mewnbynnwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair presennol a chliciwch Nesaf.
- Pan fydd eich meddygfa yn barod, bydd neges newydd Fy Iechyd Ar-lein yn ymddangos:
- Mewnbynnwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair presennol a chliciwch Nesaf .
- Os nad yw’ch enw defnyddiwr a/neu gyfrinair yn cyd-fynd â’r gofynion newydd, bydd y sgrin Manylion Cyfrif yn ymddangos, a bydd angen ei llenwi:
- Enw defnyddiwr – gallwch ailddefnyddio eich enw defnyddiwr blaenorol, (os yw’n bodloni’r meini prawf a ddangosir ar y sgrin), ond os bydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rywun arall, bydd rhaid i chi greu un newydd, sy’n unigryw i chi e.e. johnsmith1.
- Cyfrinair - Rhowch gyfrinair newydd. Rhaid iddo gynnwys o leiaf 8 nod, ac o leiaf un nod o 3 o’r 4 math canlynol o nodau: priflythyren, llythyren fach, rhif neu symbol.
- Cadarnhau'ch cyfrinair – Teipiwch eich cyfrinair newydd eto i’w gadarnhau.
- Darllenwch y Telerau ac Amodau a’r Polisi Preifatrwydd, a thicio i gytuno.
- Cliciwch Cadarnhau i greu eich cyfrif.
Syniadau ac Awgrymiadau - Nodwch y dudalen hon i’w gwneud hi’n hawdd dod i hyd i’r wefan gywir y tro nesaf.
Cofiwch – Y tro nesaf y bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein meddyg teulu, defnyddiwch www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk gyda’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair newydd rydych newydd eu pennu.
Os byddwch wedi rhoi cynnig ar yr uchod ac yn cael problemau technegol o hyd, defnyddiwch y ddolen Cysylltu â Gwasanaeth Cymorth y Wefan ar waelod y sgrin.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.